Tydi
Fy Iesu glân ar Galari,
 brynodd hawl y nef i mi;
Dy olaf gri yn ras i gyd
Oedd bywyd a maddeuant llawn,
Er mwyn yr Iawn
i euog fyd.
Iawn, Iawn,
Ar gyfyng awr
Dy ddu brynhawn
A darddodd o Dy fynwes lawn;
Di-lan yw dawn Dy gariad cu,
'Rwyf innau'n clywed sŵn y môr
Ar drothwy dôr
fy nghalon ddu.
O! gâd
I grwydryn euog difwynhad
Wynebu'n ôl i dŷ fy Nhad;
Mae'r hen ystâd yn hedd i gyd
I wrthryfelwr llwm ei wedd,
A bwrdd y wledd yn llawn o hyd.
Mae'r wawr
Yn uchel ar y Bryn yn awr,
Ac ni fachluda'r Haul i lawr;
O! Iesu mawr, yngngoleu'r dydd
Dwg fi i Graig
sydd uwch na mi,
O gyrraedd lli'
y farn a fydd.
Evan Rees (Dyfed) 1850-1923
[Mesur: 288.888] |
'Tis thou
My holy Jesus on Calvary,
Who purchased the right to heaven for me;
Thy last cry altogether grace
Was life and full forgiveness,
For the sake of the Atonement
for a guilty world.
Atonement, atonement,
In the straitened hour
of thy black afternoon
Issued from thy full breast;
Unbounded in the gift of thy dear love,
I too am hearing the sound of the sea
At the threshold of the door
of my black heart.
O let
A wanderer, guilty of defilement
Turn back to face my Father's house;
The old estate is altogether peace
For a rebel of a destitute countenance,
And the banquet table is still full.
The dawn is
High over the hill now,
And the sun shall not go down;
O great Jesus, enlighten the day
Bring me to the Rock
that is higher than I
From the reach of the tide
of the judgment that shall be.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|